Un o fy hoff arogleuon yn y gwanwyn ydy blodyn ysgawen a dw i’n hoff iawn o gordial blodau ysgawen hefyd. Mae’n haws iawn i’w wneud ac yn rhad yn gymhariaeth efo beth sy’n ar gael yn y siopau.
Dw i wedi gadael pethau braidd yn hwyr eleni ond o’n i’n benderfynol i’w wneud rhai. Yr amser gorau i gasglu’r blodau gwyn ydy yn y bore. Es i am dro bach o gwmpas y caeau gerllaw bore ‘ma. Roedd yn anodd ffeindio’r blodau oherwydd bob nhw’n wedi dechrau trwy at ffrwythau ond wnes i ffeindio digon yn y diwedd.
Mae’n bwysig iawn i ddewis blodau ifanc. Mae rhaid i’r persawr bod yn felys felly dw i’n gwneud y “sniff test” bob tro cyn i mi eu torri nhw i ffwrdd. Maen nhw’n gallu arogli fel piso cath o maen nhw’n rhy hen! Ac, yn fy marn i, mae rhai llwyni gallu bod yn fwy melys na rai arall. Mae’n bwysig i ysgwyd y blodau cyn eu rhoi yn y bag i ryddhau’r pryfed bach.
Roedd yn fore hyfryd heddiw, felly wnes i fwynhau eistedd yn yr ardd yn tynnu’r blodau oddi ar y coesau. Roedd gen i ddim ond un litr o flodau y tro ‘ma. Un waith wnes i gasglu gormod ac o’n i dal yn yfed y cordial bron un flwyddyn yn ddiweddarach!
Dyma fy rysáit:
Cordial blodyn ysgawen
1 litr blodau ysgawen
700g siwgr
1 lemwn
Rowch y blodau mewn padell efo digon o dŵr i’w gorchuddio. Fudferwi’n ysgafn iawn am chwater awr ac yna eu gadael i sefyll am chwater awr. Straeniwch y sudd a’i fesur. Ychwanegwch 350g siwgr a sudd un lemwn i bob un 500g o sudd ysgawen. Gynheswch i hydoddi’r siwgr. Pan fydd y sudd yn gŵl, rowch mewn poteli. Os ydych chi’n sterileiddio’r poteli, bydd y sudd yn parhau am oesoedd. Os na fyddwch yn sterileiddio’r poteli, cadwch nhw yn yr oergell am bythefnos.





