#NoMowMay

Mae’n amser i roi’r peiriant torri lawnt i ffwrdd am fis!

Mae lawer o sefydliadau yn trio anogi bobl i beidiwch â thorri’r lawnt ym mis Mai.

Mae Plantlife UK yn dweud bod lawntiau’n bwysicach nag erioed i beillwyr a’r gall ein lawnt helpu i ddarparu’r wledd iddyn nhw. Trwy’r peidio torri lawnt, ni’n rhoi’r cyfle i flodau tyfu. Efallai y cewch chi syndod am yr hyn sydd yn eich lawnt! Am ddiwedd y mis maen nhw’n gofyn i bawb cymryd rhan mewn arolygon. Felly, pa flodyn gwyllt sy’n tyfu yn eich lawnt?

Yn yr ardal fi, mae’r Derbyshire Wildlife Trust yn rhoi her i bobl adael rhan o’r lawnt, neu’r holl lawnt, yn wyllt ac maen nhw gynnig paced o hadau blodau gwyllt i bawb sy’n cymryd rhan! Gwych!

Dw i’n siŵr a bydd sefydliadu tebyg yn yr ardal chi yn wneud yr un peth. Felly beth am roi cynnig arni? Ewch amdani! Dw i wedi rho fy mheiriant torri lawnt i ffwrdd!

Garddio a Hwyl! Cystadleuaeth Garddio 2021

Dw i wrth fy modd i cyhoeddi “Garddio a Hwyl!” Cystadleuaeth Garddio 2021!

Ddim yn arddwr penigamp? Dim problem! Mae’na ddosbarthiadau i bawb. Y peth pwysig ydy mwynhau beth sy gynnoch chi a mwynhau defnyddio’ch Cymraeg!  Felly, beth sy gynnoch chi i’w arddangos?! Mae’r manylion isod ac yr dyddiau cau yw 17 0 Orffenaf 2021.

Ewch amdani!

Eirin Mair

Mae rhai pethau dw i erioed prynu yn yr archfarchnad: mwyar duon (achos mean nhw’n ar gael am ddim ym mhob man), rhiwbob (achos mae’na wasted rhywun efo gormod i’w rhannu), ffa dringo (yr un peth â rhiwbob) ac eirin mair. Ac wrth gwrs mae’n ddigon hawdd i’w tyfu nhw i gyd os mae gynnoch chi i le.

Mae gen i riwbob yn yr ardd a dw i’n mynd i dyfu ffa dringo eto eleni hefyd a, fel arfer, gobeithio bydda i’n llenwi rhewgell efo mwyar duon. Wnes i brynu un llwyn eirin mair y llynedd ond wnaeth yr adar fwyta’r ffrwyth i gyd cyn i mi gael y cyfle i’w casglu nhw. Ond dydy un llwyn bach yn ddigon i gael cnud go dda, dw i’n meddwl, felly i wnes i benderfynu cael mwy.

Wnes i ddod o hyd siop ar lein syn gwerthu llwyn eirin mair a brynais i dri o amrywiaeth “Invicta”. Dewisais i “Invicta” achos dw i isio aeron gwyrdd ac mae “Invicta” i fod yn darparu cnwd go dda. Mae rhai mathau o eirin mair yn goch, fel yr un yn fy ngardd cefn, ond well gen i aeron gwyrdd.

Cyrhaeddon nhw mewn bocs yn y post, gwraidd noeth. Roedd tipyn yn hwyr yn y tymor i gael pethau gwraidd noeth ac roedd y blagur yn dechrau agor felly wnes i eu plannu nhw yn syth yn yr ardd. Ro’n i’n bwriadu eu plannu nhw yn yr ardd cefn i ddechrau, ond wnes i newid fy meddwl achos, ar ôl glirio’r jyngl yn yr ardd ffrynt, mae digon o le yno a mwy o haul hefyd.

Gobeithio maen nhw’n mynd i dyfu’n braf a gobeithio bydda i’n cael rhyw eirin mair i fwyta eleni. Bydd rhaid i mi gofio eu gorchuddio efo rhwyd y to ‘ma…

Dathlu briallu

Fy hoff flodyn yr adeg hon o’r flwyddyn ydy briallu. Efallai, maen nhw’n fy hoff flodyn erioed. Un o fy atgofion cynharaf ydy edrych ar friallu efo fy mam a thad yn y cefn gwald yn Swydd Stafford lle ges i fy magu. Roedd y briallu dan rhai coed yn gae erbyn y bungalow lle roedden ni’n byw ar y pryd. Wnaethon ni symud i’r dref pan o’n i’n am tua thair oed, felly do’n i’n ddim yn hŷn na thri ar y pryd. Dw i’n dal medru gweld yr olygfa yn fy mhen fel ffoto. Mae’r briallu wedi gwneud argraff ddofn arna fi dw i’n siŵr.

Ar ôl i glirio’r jwngl yn yr ardd frwnt maen nhw wedi lledaenu ac mae gen i amrywiaeth mawr o liwiau. Dw i wedi symud rhai ohonyn nhw i’r ardd cefn hefyd achos dw i’n hoffi gweld nhw trwy’r ffenestri tra dw i’n yn y gegin neu yn gweithio adre ar fy nghyfrifiadur. Maen nhw’n edrych yn hyfryd iawn ar hyn o bryd  ac maen nhw’n neud lles i fywyd gwyllt hefyd achos maen nhw’n darparu neithdar cynnar.

Dw i’n hoffi’r rhai sy’n debycach i’r rhai gwyllt orau. Beth ydy eich hoff chi?

Amser nythu

Mae gwanwyn wedi dod ac mae’r adar wedi dechrau canu’n braf yn y bore. Pythefnos yn ôl wnes i lanhau’r blwch nythu yr oedd y titw tomos las yn ei defnyddio’r llynedd. Dw i wedi gweld y titw tomos las yn edrych yn y blwch yn barod, felly gobeithio maen nhw’n mynd i nythu yno eleni hefyd.

Mae adar arall yn brysur yn yr ardd yn casglu pethau i wneud nythu. Yn y lle dw i wedi bod yn paratoi i blannu tatws, dw i wedi gweld yr aderyn du, y bioden a’r drudwy yn casglu pethau yn eu pigau i wneud nythod allan ohono.

O leiaf dau ddrudwy yn adeiladau nythod ar hyn o bryd, un yn to fy nghymydogion ac un yn eu simnai. Mae’r un yn y to yn mynd i fod y gorau dw i’n meddwl achos dw i wedi gweld y drudwy yn casglu dail buddleia ffres, dial y wermod wen (feverfew) a dail lafant hefyd i’w defnyddio.

Un peth od ydy eu bod y drudwy ac yr adar y to yn defnyddio’r un twll yn y to. Mae rhaid iddyn nhw gymryd eu tro yn mynd ar ddod.

Gwesty gwenyn

Dw i wedi bod yn teimlo’n euog ar ôl styrbio cymaint o’r creaduriaid yn fy ngardd wyllt er mwyn creu gardd newydd. Un peth o’n i’n poeni amdano oedd cael gwared ar hen westy pryfetach. Roedd y hen westy pryfetach yn gwneud allan o’r hen briciau a hen deils to. Pan ro’n i’n ei dynnu i lawr wnes i ddod o hyd llawer o bryfed cop a nyth llygoden y coed hefyd. Gobeithio bydd y pryfed cop a llygoden yn hapus i symud drws nesa i’r tomen pren o gwmpas y tŷ draenog.

Mae gen i westy gwenyn bach hefyd. Mae hi wedi bod yn llwyddiannus dros y blynyddoedd ac oedd yn gyffrous iawn i’w weld y gwenyn yn mynd ac yn dod ac yn cau’r tyllau yn y pren efo’r darnau o ddeilen. Ond does neb yn ei defnyddio ar hyn o bryd ac mae’n edrych bach yn wlyb hefyd. Efallai mae’n amser i gael un newydd?

Ar ôl edrych at beth syn ar gael ar y we – ac yn cael sioc fach am eu pris – o’n i’n dechrau diflasu. Yna, wnaeth fy ngŵr fy atgoffa fi bod gynnon ni hen balet pren i gael gwared ohono a llawer o bren tân, felly byddai’n eithaf syml iddo fo wneud gwesty gwenyn newydd, os dw i’n tynnu llun o beth dw i isio.

Y diwrnod wedyn, daeth sŵn llifio a morthwylio o’r garej am rhai oriau a cyn diwedd y prynhawn roedd y gwesty gwenyn newydd yn barod. Dw i’n hapus iawn iddi a gobeithio bydd y gwenyn yn hapus hefyd.

Ddwy flynedd yn ôl

Wythnos ‘ma ydy fy mhen blwydd dysgu Cymraeg! Wnes i ddechrau dysgu Cymraeg ddwy flynedd yn ôl ym Mis Mawrth 2019, felly dw i wedi bod yn meddwl am y newidiadau gwych mae Cymraeg wedi rhoi i mi dros y ddwy flynedd.

Dw i’n wrth fy modd efo’r ffrindiau hyfryd dw i wedi gwneud, efo darllen yn y Gymraeg, ac mae gen i werthfawrogiad newydd o Gymru hefyd. Heb Gymraeg ni fyddwn i wedi cwrdd ag Adam Yn Yr Ardd na dechrau newid fy ngardd.

Felly sut mae’r pethau wedi newid yn yr ardd erbyn hyn? Dyma ychydig o lunia o fy ngardd i gymharu efo’n gilydd. Cymerwyd rhai ohonyn nhw ym mis Mawrth 2019 pan o’n i’n cadw gardd wyllt ac y llall wythnos ‘ma.

Mae rhai rhannu o’r ardd yn eitha llwm ar hyn o bryd ond gobeithio medra i dyfu amrywiaeth ehangach o bethau eleni. Dw i’n poeni am wneud rhai creaduriaid bach digartref hefyd felly bydd y prosiect nesa i adeiladu gwesty pryfed newydd.

Mae’n amlwg bod llawer o waeth dal i’w wneud!

Draenog wedi deffro

Am 5ed Mawrth deffrodd y draenog ar ôl gaeaf cysgu. Mae o wedi bod yn gaeafgysgu ers mis Rhagfyr. Ro’n i’n yn yr ardd cefn pan welais i faw draenog felly’r nos wedyn rhoddais i fwyd allan iddo fo ac anelu i’r trap camera ar y bwyd. Y bore wedyn roedd fideos o’r draenog ar y trap camera. Mae’n braf i’w weld eto.

Rhoddais i gynrhon y blawd, hadau blodau haul a bwyd cath sbâr allan iddo fo. Roedd y draenog yn yr ardd yn eithaf cynnar, am saith o’r gloch, felly cafodd y draenog y bwyd cyn cyrhaeddodd y llwynog.

Dros y penwythnos ro’n i’n paratoi lle yn yr ardd cefn i’w plannu tatws. Roedd y lle yn eithaf gwyllt y llynedd felly roedd rhaid i mi balu – a dw i’n casáu palu achos dw i ddim yn licio lladd mwydod. Roedd rhaid i mi ddefnyddio’r compost a wnes i mewn bin compost ac yn cymysgu’r compost efo’r pridd. Roedd y draenog wrth ei bodd yn hela bwyd yn y lle ‘ma.

Gwely newydd

Am 26ain Chwefror wnaeth fy ngŵr creu’r trydydd gwely wedi codi yn yr ardd. Cyn gwnaeth o ddechrau roedd rhaid i mi symud ychydig o blanhigion ac y “pwll mewn bwced” er mwyn creu lle. Wnaeth o symud y slabiau ac yn gosod y pren. Ar ôl hynny, wnes i lenwi’r gwely efo compost newydd. Mae’n edrych yn dda.

Dw i wedi bod yn lledaenu compost ar y gwelyau arall hefyd. Y gwanwyn ydy’r amser gorau i roi mwy o gompost ar ben y gwelyau yn barod i’r tymor tyfu newydd. Mae’n syfrdanol pa mor gyflym mae compost yn diflannu – mae gen i bron dim ar ôl o’r 800 litr rŵan!

Adar yr eira

Bob tro mae’r tywydd yn oer iawn mae’n werth cadw llygad ar yr adar yn yr ardd. Oherwydd bod bwyd yn brin yn y cefn gwlad mae’r adar yn tueddu dod i’r ardd i chwilio am fwyd. Dros y gaeaf dw i’n gwneud yn siŵr fy mod i’n rhoi bwyd allan iddyn nhw a bod dŵr ar gael hefyd.

Yn fis Chwefror ar ôl sawl diwrnod a noson oer iawn ges i ymwelwyr anarferol i’r ardd. Y cyntaf i ymddangos roedd bronfraith. Dw i wedi gweld bronfraith yn yr ardd dros y gaeafau cynt a dw i’n eu clywed nhw’n ganu gerllaw yn y gwanwyn. Yr ail i ymddangos roedd llinos bengoch leiaf. Ro’n i’n heb weld un yn yr ardd o’r blaen felly roedd yn gyffrous iawn i’w weld. Am sbel, ro’n i’n meddwl fy mod i’n edrych ar ji-binc benyw tan wnes i godi fy ysbienddrych. Y trydydd roedd coch dan-aden. Mae llawer ohonyn nhw yn y caeau yn yr ardal ar hyn o bryd. Maen nhw’n dod i Brydain o Wlad yr Iâ, yr Almaen, Poland, Rwsia, Sgandinafia ac y Baltig dros y gaeaf mewn heidiau. Roedd yr yn hon ar ei ben ei hun a wnaeth hi ddim aros yn yr ardd am hir.

Bronfraith
LLinos bengoch leiaf
Coch dan-aden
Create your website with WordPress.com
Get started